Gwedd Gyflwyno

Annibendod

A oes rhywun yn dweud wrthoch byth a hefyd i dacluso ar eich ôl? Yn lladd arnoch chi am wneud y fath annibendod? Y sawl sy’n gofalu amdanoch gartref, o bosib? Mae taclusrwydd yn bwysig, wrth gwrs, ond fel mae’r gerdd hon gan Hywel Griffiths yn dangos, mae rhywbeth annaturiol amdano weithiau hefyd, er mor ddymunol. Mae’r gerdd wedi ei hysgrifennu o safbwynt rhieni ar ddiwedd dydd: mae eu plant yn y gwely ond o’r ystafell fyw, drwy gyfrwng dyfais electronig, maen nhw’n dal i allu clywed y plant yn cysgu’n braf.