Gwedd Gyflwyno

Croen

A oes gennych chi datŵ? Neu a ydych erioed wedi dymuno cael tatŵ? A phe bai gennych ddewis, tatŵ o beth fyddai orau gennych? O bosib y byddech yn dewis cofnodi enwau’r bobl hynny yr ydych yn eu caru, fel yn achos y ferch sy’n llefaru yn y gerdd hon gan Siân Northey. Gwaetha’r modd, amgylchiadau trist sydd wedi ei gwthio i gymryd y cam arbennig hwn.