Mae pawb yn hoff o dynnu hunlun (‘selfie’). Mae’n gyfle i ni gofnodi ein bod wedi bod mewn rhyw fan arbennig, neu ddigwyddiad arbennig, neu yng nghwmni rhywun arbennig. Yn ogystal â bod yn hwyl, felly, mae’n rhyw fath o brawf. Ond beth yw diben yr hunluniau hynny wedyn? Mae’r ferch yn y gerdd hon wedi rhoi llun ohoni ei hun ar Facebook, ac er nad yw’r geiriau hyn yn ymddangos gyda’r hunlun go iawn, dyma mae’r bardd yn dychmygu sy’n mynd drwy feddwl y ferch.