Gwedd Gyflwyno

Sŵn

T. Llew Jones (1915 – 2009)

 

tllewjones01

 

Roedd T. Llew Jones (Thomas Llewelyn Jones) yn fardd ac yn un o awduron llyfrau plant mwyaf poblogaidd Cymru. Mae’n cael ei ystyried fel brenin llenyddiaeth plant Cymru.

Cafodd ei eni ym Mhentrecwrt, sir Gaerfyrddin yn 1915 ac ar ôl gwasanaethu yn yr Ail Ryfel Byd, daeth yn ôl i Gymru a hyfforddi i fod yn athro. Bu’n dysgu yn Ysgol Talgarreg cyn dod yn brifathro yn Ysgol Tre-groes ac yna yn Ysgol Coed-y-bryn. Ceredigion oedd ei filltir sgwar.

Bu’n ysgrifennu am hanner can mlynedd, gan gyhoeddi dros 50 o lyfrau i gyd. Roedd yn hoff iawn o ysgrifennu straeon antur i blant a straeon am arwyr gwerin Cymru. Yn eu plith mae nofelau enwog fel Trysor Plasywernen, Tân ar y Comin, Barti Ddu a Dirgelwch yr Ogof. Mae rhai o’i nofelau wedi eu haddasu’n ffilmiau a rhaglenni ar gyfer y teledu.

Roedd T. Llew Jones yn fardd llwyddiannus ac fe enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy flynedd yn olynol yn 1958 a 1959. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth i blant, gyda cherddi fel ‘Cwm Alltcafan’ yn dod yn boblogaidd ymysg plant ac oedolion.

Bu farw yn 93 mlwydd oed ym mis Ionawr 2009. Yn 2012 fe elwid ysgol gynradd newydd ym Mrynhoffnant, Ceredigion, yn Ysgol Gynradd Gymunedol T. Llew Jones, er cof amdano.

Rydym hefyd yn dathlu diwrnod cenedlaethol T. Llew Jones yn flynyddol yng Nghymru o gwmpas cyfnod ei ben-blwydd, sef 11 Hydref.

 

86042295 bdd5c34f c98b 4788 a3d4 074315266b60